Sut rydym yn darparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg.
Mae’r HCPC wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn eu dewis iaith.
Rydym yn mabwysiadu “egwyddor o gydraddoldeb” wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, sy’n golygu y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Ers 2011, rydym yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg sy’n gosod rhwymedigaethau arnom i drin y ddwy iaith yn gyfartal a chynnig ystod o wasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg i’n rhanddeiliaid.
Yn 2022 cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg Safonau’r Gymraeg newydd ar gyfer rheoleiddwyr y proffesiynau iechyd drwy Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r safonau hyn yn disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith Comisiynydd y Gymraeg a’r safonau yma.
Mae’r safonau yn gyfres gyfreithiol rwymol o ofynion a luniwyd i hybu a hwyluso’r Gymraeg, a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.
Rhannwyd y safonau yn bum categori:
- Cyflenwi Gwasanaethau– ynghylch y gwasanaethau rydym yn eu darparu i gofrestreion ac unigolion, ac yn cynnwys rhai gwasanaethau Cymhwyster i Ymarfer a gwasanaethau cofrestru.
- Llunio Polisi – ynghylch ein penderfyniadau a'n prosesau mewnol ynghylch polisïau.
- Gweithredol– ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith ein staff yn fewnol
- Cadw Cofnodion a Materion Atodol – ynghylch adroddiadau blynyddol, a chwynion a gyflwynir mewn perthynas â'n cydymffurfiad â'r safonau.
Eisiau gwybod rhagor? Gallwch ddarllen yr holl safonau sy'n berthnasol i ni yma.
I gael gwybodaeth ynghylch sut i gyrchu gwasanaethau yn y Gymraeg, cysylltwch â'r adran berthnasol.
Monitro'r Gymraeg yn Flynyddol
Rydym yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad diweddaraf isod.
Y Gymraeg ar ein gwefan
Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella ein galluoedd Cymraeg ar-lein. Rydym felly yn cynnig gwefan Gymraeg, sy'n cynnig cynnwys wedi'i gyfieithu lle mae ar gael yn arddull a fformat y wefan Saesneg.
- Cyhoeddwyd:
- 06/12/2023
- Resources
- Report, Policy