Dylai lefel y gofal a gewch gan weithiwr proffesiynol cofrestredig fodloni ein safonau
Rhaid i’r holl weithwyr proffesiynol sydd ar ein Cofrestr fodloni ein safonau. Mae hynny’n golygu gwneud y pethau canlynol.
Eich trin chi fel unigolyn
- Parchu eich anghenion, eich F7dymuniadau a chyfrinachedd
- Cyfathrebu â chi mewn ffordd y galllwch ei deall.
Bod yn onest a meithrin ymddiriedaeth
- Dweud wrthoch chi os bydd pethau’n mynd o’u lle yn eich gofal neu driniaeth.
- Gwneud yr hyn y gallant er mwyn unioni pethau
- Cynnal y berthynas yn un broffesiynol.
Blaenoriaethu eich diogelwch
- Gwneud beth maent yn ei wybod a’i ddeall yn unig, neu eich cyfeirio at weithiwr proffesiynol arall.
- Dysgu o gamgymeriadau.
- Codi llais os bydd ganddynt bryderon am eich diogelwch
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 05/12/2023