Rydym yn diogelu’r cyhoedd drwy reoleiddio 15 o broffesiynau iechyd a gofal.
Mae gan y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio un neu fwy o deitlau dynodedig sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith a rhad i weithwyr proffesiynol fod wedi’u cofrestru er mwyn cael eu defnyddio.
Proffesiynau a theitlau gwarchodedig
-
Mae therapydd seicolegol yn therapydd celfyddydau sydd â phrofiad a hyfforddiant sy’n seiliedig ar y celfyddydau mewn ymyriadau seicolegol yn defnyddio drama, cerddoriaeth neu gelf fel eu prif gyfrwng cyfathrebu.
Teitlau gwarchodedig
- Seicotherapydd celf
- Therapydd celf
- Dramatherapydd
- Therapydd cerdd
-
Mae gwyddonydd biofeddygol yn dadansoddi samplau o gleifion er mwyn darparu data i helpu meddygon i ddiagnosio a thrin afiechyd.
Teitlau gwarchodedig
- Gwyddonydd biofeddygol
-
Mae ciropodydd /podiatrydd yn diagnosio ac yn trin anhwylderau, afiechydon ac anffurfiadau’r traed.
Teitlau gwarchodedig
- Ciropodydd
- Podiatrydd
-
Mae gwyddonydd clinigol yn goruchwylio profion arbenigol ar gyfer diagnosio a rheoli afiechyd. Maent yn cynghori meddygon ynglŷn a phrofion a dehongli data, ac yn cynnal ymchwil er mwyn dod i ddeall afiechydon.
Teitlau gwarchodedig
- Gwyddonydd clinigol
-
Mae deietegydd yn defnyddio gwyddor maeth i greu cynlluniau bwyta ar gyfer cleifion at ddibenion trin cyflyrau meddygol. Maent yn hybu iechyd da drwy helpu i hwyluso newid cadarnhaol o ran dewisiadau bwyd.
Teitlau gwarchodedig
- Deietegydd
- Deietegydd
-
Mae cyflenwyr cymhorthion clyw yn gweithio mewn ymarfer preifat i asesu, ffitio a darparu ôl-ofal ynghylch cymhorthion clyw.
Teitlau gwarchodedig
- Cyflenwr cymhorthion clyw
Rydym hefyd yn rheoleiddio swyddogaeth warchodedig cyflenwr cymhorthion clyw.
-
Mae therapydd galwedigaethol yn defnyddio gweithgareddau penodol er mwyn cyfyngu ar effeithiau anabledd a hyrwyddo annibyniaeth ym mhob agwedd ar fywyd beunyddiol.
Teitlau gwarchodedig
- Therapydd galwedigaethol
-
Mae ymarferwyr adrannau llawfeddygol yn darparu gofal wedi’i deilwra a chymorth medrus i'r unigolyn ochr yn ochr â chydweithwyr meddygol a nyrsio yn ystod camau anaesthetig, llawfeddygol ac adfer triniaeth lawfeddygol.
Teitlau gwarchodedig
- Ymarferydd adrannau llawfeddygolz
-
Mae orthoptydd yn arbenigo mewn diagnosio a thrin problemau golwg sy’n gysylltiedig â symudiad ac aliniad y llygaid.
Teitlau gwarchodedig
- Orthoptydd
-
Mae parafeddygon yn darparu gofal a thriniaeth arbenigol i gleifion sydd naill ai â salwch acíwt neu sydd wedi’u hanafu. Gallant roi ystod o gyffuriau a chynnal technegau llawfeddygol penodol.
Teitlau gwarchodedig
- Parafeddyg
-
Mae ffisiotherapyddion yn ymdrin â gweithrediad a symudiad y corff dynol, ac yn helpu pobl i gyflawni eu llawn botensial corfforol. Maent yn defnyddio dulliau ffisegol i hyrwyddo, cynnal ac adfer llesiant.
Teitlau gwarchodedig
- Ffisiotherapydd
- Therapydd ffisegol
-
Mae seicoleg yn astudiaeth wyddonol sy'n ymrin â phobl, y meddwl ac ymddygiad.. Mae seicolegwyr yn ceisio deall rôl gweithrediadau meddyliol yn ymddygiad unigolion ac mewn ymddygiad cymdeithasol.
Teitlau gwarchodedig
- Ymarferydd seicoleg
- Seicolegydd cofrestredig
- Seicolegydd clinigol
- Seicolegydd fforensig
- Seicolegydd cwnsela
- Seicolegydd iechyd
- Seicolegydd addysg
- Seicolegydd galwedigaethol
- Seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff
-
Mae prosthetyddion / orthotyddion yn cyflenwi prostheses ac orthoses i gleifion. Mae prosthesis yn ddyfais sy’n cymryd lle rhan golledig o’r corff. Caiff orthosis ei osod ar ran bresennol o’r corff.
Teitlau gwarchodedig
- Prosthetydd
- Orthotydd
-
Mae radiograffwyr therapiwtig yn cynllunio a darparu triniaeth drwy ddefnyddio ymbelydredd.
Mae radiograffwyr diagnostig yn cynhyrchu a dehongli delweddau o’r corff o ansawdd uchel er mwyn diagnosio anafiadau ac afiechydon.
Teitlau gwarchodedig
- Radiograffydd
- Radiograffydd diagnostig
- Radiograffydd therapiwtig
-
Mae therapydd iaith a lleferydd yn asesu, trin a helpu i atal anawsterau lleferydd, iaith a llyncu.
Teitlau gwarchodedig
- Therapydd iaith a lleferydd
- Therapydd lleferydd