Skip navigation

Pam a sut gwnaethom adolygu ein safonau hyfedredd

Rydym yn adolygu ein safonau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol i ymarfer cyfredol.

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr ac ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y setiau diwygiedig o safonau ar gyfer pob un o’r 15 proffesiwn eu cymeradwyo gan y Cyngor ym mis Mawrth 2022.

Ar gyfer yr adolygiad, gwnaethom:

  • Weithio gydag ystod eang o randdeiliaid er mwyn ceisio safbwyntiau i ddatblygu safonau yn unol ag ymarfer proffesiynol cyfredol
  • Adolygu'r holl setiau o safonau hyfedredd gyda’i gilydd

Yn dilyn ein hadolygiad blaenorol o’r safonau hyfedredd, gwnaethom gyhoeddi’r safonau fesul cam, o fis Chwefror 2013 hyd at fis Chwefror 2015.

Mae’r diwygiadau ar gyfer pob proffesiwn yn adlewyrchu graddfa datblygiadau mewn ymarfer o fewn y proffesiwn hwnnw, yn unol ag adborth o’n hymarfer ymgynghori.

Daeth y safonau hyn yn weithredol ar 1 Medi 2023 gan ddisodli fersiynau blaenorol.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 28/11/2023
Top